Datganiad hygyrchedd ar gyfer Gwasanaeth Ad-dalu Ar-lein y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr

Mae'r wefan yn cael ei rhedeg gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr Cyfyngedig (SLC) ar ran Gwasanaethau Digidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae wedi ei chynllunio i gael ei defnyddio gan gymaint o bobl â phosibl. Dylech hefyd allu:

Rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet (yn agor mewn tab newydd) gyngor ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan

Fe wyddom nad yw rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

Beth y dylech ei wneud os na allwch gyrchu rhannau o’r wefan hon

Os oes arnoch angen unrhyw rai o’n llythyrau, ein ffurflenni neu’n canllawiau mewn Braille neu brint bras, anfonwch e-bost i brailleandlargefonts@slc.co.uk gan nodi:

Os na allwch gyrchu unrhyw rannau eraill o’n gwefan, rhowch wybod i ni trwy gysylltu â ni yn accessibility@slc.co.uk.

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy'n fyddar, gyda nam ar eu clyw neu sydd â nam ar y lleferydd.

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain, neu os byddwch chi'n cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch gael gwybod sut mae cysylltu â ni trwy fynd i:
www.gov.uk/government/organisations/student-loans-company (yn agor mewn tab newydd).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn ymroddedig i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd').

Mae'r wefan hon yn rhannol gydymffurfio gyda'r  Canllawiau Hygyrchedd cynnwys Gwe fersiwn 2.1 (yn agor mewn tab newydd)  ('WCAG 2.1') safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfiad a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Mae'r cynnwys isod yn anhygyrch oherwydd y rhesymau canlynol.

Meysydd nad ydynt yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Hygyrchedd

Delweddau a chynnwys nad yw’n destun

Mae rhai delweddau heb ddewis testun amgen clir, felly nid yw’r wybodaeth ynddynt ar gael i bobl yn defnyddio darllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 1.1.1 (cynnwys nad yw'n destun). Rydym yn bwriadu ychwanegu dewisiadau amgen testun ar gyfer yr holl ddelweddau erbyn Medi 2020. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau bod ein defnydd o ddelweddau yn bodloni safonau hygyrchedd AA.

Dogfennau PDF

Rydym yn ymwybodol nad oes modd golygu rhai dogfennau PDF yn llawn, a bod y drefn ddarllen wrth ddefnyddio darllenydd sgrîn i’w cyrchu yn wahanol i’r drefn ddarllen weledol. Nid yw hynny’n bodloni maen prawf llwyddiant rhif 2.4.7 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (mae gofyn i ddefnyddwyr lawrlwytho a llenwi dogfen PDF). Byddwn yn darparu dogfennau PDF y gellir eu golygu’n llawn gyda threfn ddarllen gyson, neu ffurflenni HTML digidol i ddisodli pob dogfen PDF, erbyn mis Medi 2020.

Baich anghymesur

Offer a thrafodion rhyngweithiol

Pan fyddwn yn anfon llythyrau at ein defnyddwyr, rydym hefyd yn eu darparu i'w gweld yn eu cyfrif ar-lein.

Efallai na fydd rhywfaint o'r cynnwys mewn dogfennau hŷn yn cael eu darllen yn y drefn gywir. Gall hyn ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr darllenyddion sgrin ddehongli'r wybodaeth. Nid yw hyn yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 1.3.2 (dilyniant ystyrlon).

Rydym wedi asesu'r gost o ddatrys y materion hyn a chredwn y bydd gwneud hynny nawr yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn ailasesu hyn ym Medi 2021.

Fodd bynnag, os ydych chi angen un o'r dogfennau hyn, cysylltwch â accessibility@slc.co.uk.

Sut y gwnaethom brofi’r wefan hon

Ar hyn o bryd mae'r wefan hon yn cael ei phrofi ar gyfer cydymffurfiad gyda Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe V2.1 safonau lefel A a lefel AA, ac mae'r profion hyn wedi eu cyflawni'n fewnol.

Fe ddefnyddiom y Fethodoleg Gwerthuso Cydymffurfiad Hygyrchedd Gwefan (WCAG-EM) i brofi'r gwasanaeth cyfan.

Adrodd ynghylch problemau hygyrchedd ar y wefan hon

Rydyn ni'n gobeithio gwella hygyrchedd y wefan ar bob cyfle. Os byddwch yn canfod unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: accessibility@slc.co.uk.

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi'r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n fodlon gyda sut mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) (yn agor mewn tab newydd) , neu  Gomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon (ECNI) (yn agor mewn tab newydd) os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.

Beth ydym ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn bwriadu nodi a thrwsio materion n ôl yr amserlenni a ddangosir ar gyfer pob maes uchod.

Paratowyd y datganiad yma ar 10 Medi 2019. Fe'i diweddarwyd ddiwethaf ar 12 Rhagfyr 2019.