Diogelu eich preifatrwydd

Polisi preifatrwydd

Bydd SLC yn gweithredu mewn cytundeb â deddfwriaeth sydd mewn grym parthed y prosesu o ddata personol, ac yn rheolwr data o'r data personol a ddarparwyd gennych chi ac maen'n ymrwymedig i barchu eich preifatrwydd ar-lein. Byddwn yn ceisio am ddiogelu a rheoli unrhyw wybodaeth bersonol y rhannwch gyda ni. Caiff lefel y diogelwch ei seilio ar asesiad o niwed sy'n debygol o gael ei achosi gan y golled neu ddatguddiad anawdurdodedig y rhoesoch i ni. Caiff y wybodaeth a roddwyd gennych ei brosesu gan SLC mewn cytundeb â deddfwriaeth gwarchod data perthnasol. Mae'r Polisi Preifatrwydd yn cynnwys holl wefannau sydd yn cael eu gweithredu gan Gwmni Benthyciadau Myfyrwyr ond nid yw'n ymestyn i ddolenni gwefannau allanol eraill o fewn y safle yma.

Rydym yn ymrwymedig i warchod preifatrwydd a diogelwch y wybodaeth a gyflwynwyd gennych i ni. Caiff yr holl wybodaeth bersonol a ddarparwyd ei drosgludo fesul cysylltiad diogel. Caiff hyn ei gwblhau o dan 128 bit SSL (haenen Soced Diogel) amgryptio, sy'n safon diogelu blaenllaw ar gyfer trosglwyddo data o fewn y diwydiant e- wasanaethau.

Efallai y byddwn yn monitro defnydd ein gwefan i'n galluogi i ddiweddaru a theilwra'r un peth ag anghenion ein defnyddwyr. Efallai y byddwn hefyd yn cadw cofnod o'r dolenni hynny sydd yn cael eu defnyddio'n fwyaf rheolaidd, ac felly yn ein galluogi i ddarparu y wybodaeth fwyaf defnyddiol ar gyfer ein defnyddwyr. Fel rhan o weithrediad ein gwasanaeth, efallai bydd rhai o'n tudalennau'n defnyddio cwcis (a thechnolegau tracio eraill). "Cwci" yw ffeil destun fechan sydd yn cael ei llawrlwytho ar yrriant caled eich cyfrifiadur a phrif amcan cwci yw i adnabod defnyddwyr ac i bersonoli eu hymweliad drwy addasu tudalennau gwe ar eu cyfer er enghraifft drwy groesawu hwy gan enw y tro nesaf maent yn ymweld â'r un safle. Mae hyn yn ein galluogi i gasglu gwybodaeth fel yr amser a dreuliwyd ar ein gwefan a'r tudalennau a ddefnyddir. Mae'r cwcis ar y wefan yma ond yn ddilys tra eich bod yn defnyddio ein gwasanaeth ac yn dod i ben pan fyddwch yn allgofnodi ac yn cau ffenest y porwr.

Nid ydym yn dargludo unrhyw dracio hir-dymor o'ch ymweliadau i'n gwefan gyda chwcis a medrwch bob amser waredu eich cwcis pan rydych yn dileu eich ffeiliau rhyngrwyd dros dro. Er hynny, dylech nodi y bydd hyn yn effeithio'r holl safleoedd sydd wedi darparu cwcis, ac nid rhai ni yn unig. Mae gwybodaeth bellach ar ddileu neu reoli cwcis ar gael yn www.aboutcookies.org. Dylid nodi na fydd ein gwefan yn gweithio heb cwcis.

Byddwn yn prosesu, defnyddio a dateglu gwybodaeth y casglwn gennych, neu yr ydych yn ei ddarparu i ni, yn y modd canlynol:

Ni fydd SLC yn cyflenwi, trosglwyddo, neu fel arall, eich data personol i unrhyw drydydd parti, eithrio ble sydd ei angen neu a ganiateir gan gyfraith. Am ragor o fanylion am y ffordd y caiff eich gwybodaeth ei ddefnyddio, pwy sy'n gyfrifol amdano a'r hawliau sydd gennych mewn cysylltiad ag ef, cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd SLC.

Mae gennym rhwymedigaeth gyfreithlon mewn cytundeb â deddfwriaeth gwarchod data perthnasol i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gedwir a phrosesu'r amdanoch yn cael ei gadw'n gywir ac wedi ei ddiweddaru. Petai chi'n darganfod bod SLC yn cadw data personol yn ymwneud â chi sy'n anghywir, hysbyswch SLC mor gynted ag sy'n bosibl. Yna bydd SLC yn cywiro ei gofnodion, ac yn hysbysu trydydd parti fydd efallai wedi derbyn eich data personol mewn perthynas â'r polisi yma.

Nid yw'r polisi preifatrwydd yma yn bwriadu - nac ydyw'n-creu unrhyw hawliau cytundebol neu hawl cyfreithiol arall. Mae fodd bynnag, yn ganllaw i'n safonau gwarchod ar-lein.