Termau defnyddio

Pwysig

Dylech ddarllen y telerau ac amodau yma cyn defnyddio'r wefan yma mewn unrhyw fodd

Drwy fyned y wefan yma, rydych yn dybiedig o fod wedi darllen a derbyn y telerau ac amodau yma yn llawn. Os nad ydych yn derbyn y telerau ac amodau yma yn llawn rhaid i chi adael y wefan yn syth ac efallai na fyddwch yn cael gwneud defnydd pellach o'r wefan.

Bydd Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn pennu, yn ein hunig ddisgresiwn, pa un ai a oes wedi bod toriad o'r telerau ac amodau yma drwy eich defnydd o'n safle. Ble mae toriad wedi digwydd, medrwn gymryd y fath weithred fel y gwelwn yn briodol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am daliad, ad-daliad o fenthyciad myfyriwr neu unrhyw gynhyrchion arall a weinyddwyd gan SLC, a wnewch chi gyfeirio at adran berthnasol y wefan yma neu gyfeirio at y wefan sy'n berthnasol i'r cynnyrch yna.

Manylion Cwmni

Caiff y wefan yma ei weithredu gan SLC. Caiff SLC ei berchnogi'n llawn gan Lywodraeth y DU ac mae'n gweithredu o fewn cyd-destun y polisi a osodwyd gan Lywodraeth y DU, Gweinidogion yr Alban a'r fframwaith deddfwriaethol.

Swyddfa cofrestredig Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr:
Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyfyngedig
The Memphis Building
Lingfield Point
McMullen Road
Darlington
Co Durham
DL1 1RW

Wedi ei gofrestru yn Lloegr Rhif. 2401034.
Rhif cofrestru TAW. 556 4352 32

Caiff manylion gweithrediadau SLC eu gosod mewn rhywle arall ar y wefan yma.

Mae gan SLC swyddfeydd yn:

Pencadlys
Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyfyngedig
100 Bothwell Street
GLASGOW
G2 7JD

Hillington Office
Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyfyngedig
11 Carnegie Road
GLASGOW
G52 4JT

Swyddfa Cyffordd Llandudno
Cyllid Myfyrwyr Cymru
Swyddfa Llywodraeth Cymru
Sarn Mynach
Cyffordd Llandudno
CONWY
LL31 9RZ

Defnyddwyr gwaharddedig

Medrwch ond ddefnyddio ein safle ar gyfer pwrpasau cyfreithiol

Efallai na fedrwch ddefnyddio ein safle:

Rydych hefyd yn cytuno i:

Polisi Preifatrwydd

Pwrpas y Polisi Preifatrwydd yma yw i'ch darparu, chi y defnyddiwr, gyda manylion ar sut fydd SLC yn casglu a defnyddio data personol yr ydych yn ei rhoi i SLC. Bydd SLC yn gweithredu mewn cytundeb â'r ddeddfwriaeth sydd mewn grym yn ymwneud â phrosesu data personol, ac mae'n rheolwr data o'r data personol a ddarparwyd gennych. Drwy ddefnyddio'r wefan yma, medrwch ddarparu peth data personol i SLC, a chaiff peth data amdanoch ei gasglu gan cwcis. Ffeiliau rhyngrwyd dros dro yw cwcis a chaiff hwy eu defnyddio gan SLC i wella rhwyddineb o ddefnyddio'r safle yma, ac i alluogi SLC i adeiladu proffil mwy manwl ohonoch. Am fwy o fanylion am y ffordd y caiff y wybodaeth ei ddefnyddiio, pwy sy'n gyfrifol amdano a'r hawliau sydd gennych mewn cysylltiad ag ef, cyfeiriwch at ein Hysbysiad Preifatrwydd SLC (yn agor mewn tab newydd).

Defnydd a Storio Data Personol

Bydd SLC ond defnyddio eich data personol ar gyfer y pwrpas o (i) berfformiad o gytundeb gyda chi yn gweinyddu eich cais benthyciad; (ii) darparu gwasanaethau i chi; a (iii) dod â manylion o wasanaethau eraill i chi y cred efallai bydd o ddiddordeb i chi. Ni fydd SLC yn cyflenwi, trosglwyddo, gwerthu neu fel arall yn darparu eich data personol i unrhyw drydydd parti eithr ble sydd ei angen neu a ganiateir gan gyfraith. Petaech yn darganfod bod SLC yn dal data personol yn ymwneud â chi sy'n anghywir, hysbyswch SLC mor gynted ag sy'n bosibl. Yna bydd SLC yn cywiro ei ddogfennau, ac yn hysbysu unrhyw drydydd parti efallai y bydd y fath data wedi ei roi mewn cytundeb â'r paragraff blaeorol.

Hawlfraint

Mae'r wefan yma a chynnwys perthynol yn llym yn © Hawlfraint Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Cedwir pob hawl. Mae'r holl eiddo deallusol a hawlfraint yn y cynllun a gosodiad y wefan yma a'r deunydd a'r wybodaeth a gyhoeddir ar y tudalennau o ddiddordeb personol yn SLC. Ni fedrwch gopio unrhyw ran o'r safle neu wneud unrhyw weithred arall mewn perthynas i unrhyw ran o'r safle sydd wedi ei wahardd gan hawlfraint heb law am:

  1. medrwch argraffu neu lwytho i lawr ar ddisg galed lleol unrhyw dudalen ar gyfer eich defnydd personol ac anfasnachol yn unig
  2. mewn deunydd a ddyroddwyd i drydydd barti, medrwch ddyfynnu o'r safle ond eich bod yn rhoi achrediad i'r awdur ac i SLC; a
  3. nodi bod dogfennau a gwybodaeth arall a argraffwyd neu a lwythwyd i lawr i ddisg galed lleol o'r wefan yn awtomateg yn syth yn dod yn 'an-reoledig' yr eiliad maent yn cael eu hargraffu enu eu llwytho i lawr. Yr unig fersiynau 'rheoledig' e.e. 'cyfredol') ydy'r rheiny sydd ar y wefan.

Dylid cyfeirio hawl i ddefnyddio neu atgynhyrchu unrhyw ddeunydd mewn unrhyw fodd nad yw wedi ei rhestru uchod cael ei gyfeirio at SLC. Ni ddylech addasu copiau papur o unrhyw ddeunyddiau yr ydych wedi eu hargraff neu eu llwytho i lawr oni bai yr ydych wedi eich awdurdodi i wneud hynny gan SLC, er hynny medrwch wneud anodiadau neu nodiadau ar gopiau papur yr ydych wedi eu hargraffu ar gfyer defnydd eich hun.

Polisi dolenni

Bydd rhai dolenni yn y wefan yma yn arwain at wefannau nad ydynt o dan reolaeth SLC. Pan rydych yn gweithredu y rhain byddwch yn gadael y wefan yma. Nid oes gan SLC unrhyw reolaeth dros ac nid yw'n derbyn atebolrwydd ynghylch y fath ddeunydd, cynnyrch neu wasanaethau sydd ar gael ar unrhyw wefan nad yw o dan reolaeth SLC. Mae SLC yn darparu'r dolenni yma i chi fel cyfleustra'n unig, ac nid yw cynnwys unrhyw ddolen yn golygu bod SLC yn cefnoi'r safle.

Medrwch ddolenni i'n gwefan, ond eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n deg a chyfreithiol ac nid yw'n niweidio ein enw da neu'n cymryd mantais ohono, ond ni fedrwch sefydlu dolen yn y fath fodd sy'n sefydlu rhyw fath o berthynas, cymeradwyaeth neu gadarnhad ar ein rhan ble nad yw'n bodoli.

Gwadiad

Mae'r deunydd a'r wybodaeth a gynhwysir ar y wefan yma ar gyfer pwrpasau gwybodaeth gyffredinol yn unig. Ni ddylech ddibynnu arno y deunydd neu'r wybodaeth ar y wefan fel sail gwneud penderfyniad busnes, cyfreithiol neu arall. Tra ein bod ni'n ceisio cadw yr holl wybodaeth wedi ei ddiweddaru ac yn gywir, nid yw SLC yn gwneud unrhyw gynrychiolaethau neu warantau o unrhyw fath, wedi eu mynegi neu'n awgrymu am gyflawnrwydd, cywirdeb, dibynadwyedd, addasrwydd neu argaeledd ynghylch y wefan neu'r wybodaeth, cynhyrchion, gwasanaethau neu graffeg perthynol a gynhwyswyd ar y wefan ar gyfer unrhyw bwrpas. Mae unrhyw hyder a rowch ar y fath ddeunydd felly yn bendnt ar risg eich hun.

I'r graddau nad sy'n waharddedig dan gyfraith, nid mewn unrhyw amgylchiadau bydd SLC yn atebol i chi neu unrhyw drydydd parti am unrhyw golled neu niwed (yn cynnwys, heb gyfyngiad without limitation, niwed am golli busnes neu golli elwau a cholledion ôl-ddilynol), yn codi'n uniongyrchol ne'n anuniongyrchol o'ch defnydd, neu eich anallu i ddefnyddio , y safle yma neu unrhyw ddeunydd a gynhwysir ynddo ac mae SLC yn unig swydd yn eithrio holl amodau, gwarantau a thermau eraill a fydd fel arall efallai'n ymhlyg gan ddeddf, cyfraith cyffredin neu gyfraith ecwiti.

Nid yw SLC yn atebol am gynnwys, dibynadwyedd nac argaeledd unrhyw safleoedd rhygnrwyd allanol a restrir, nac ydyw ychwaith o reidrwydd yn cefnogi unrhyw sylwadau neu wasanaethau a nodwyd ynddynt. Nid oes gan SLC unrhyw reolaeth dros y rhygnrwyd ac nid yw'n cymryd cyfrifoldeb am ddehongliad gwasanaeth na throsglwyddiad o firysau neu god cyfrifiadur maleisus drwy'r wefan yma. Nid yw SLC yn gwarantu bod y wefan yma, neu unrhyw ran ohono, ar gael i'w fyned ar unrhyw adeg neu adegau penodol.

Cyfrineiriau

Rydych yn gyfrifol am gadw eich manylion mewngofnodi ar-lein yn gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio â rhannu eich manylion mewngofnodi gydag unrhyw un.

Iawndal

Rydych yn cytuno i ddigolledu ac i gadw SLC wedi ei ddigolledu am unrhyw gostau, hawliau, gofynion, treuliau a rhwymedigaeth a ddioddefwyd gan SLC yn codi o neu sy'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol yn ymwneud â'ch mynediad i ac/neu ddefnydd o'r wefan.

Cyfraith Perthnasol ac Awdurdodaeth

Mae'r Telerau ac Amodau yma wedi eu rheoli gan a caiff hwy eu dehongli mewn cytundeb â Llysoedd yr Alban. Bydd gan Llysoedd yr Alban awdurdodaeth ang nghyfyngedig i ddatryd unrhyw hawl neu anghytundeb a fedrai godi, neu mewn cysylltiad â'r, telerau ac amdoau yma er ein bod yn cadw'r hawl i ddod ag achosion yn eich erbyn am dorri yr amodau yma yn eich gwlad breswyl neu wlad berthnasol arall.

Newidiadau i'r Telerau ac Amodau

Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r Telerau ac Amodau yma ar unrhyw adeg drwy bostio adolygiadau ar y safle, ym mhob achos gydag effaith o'r dyddiad ar hyr hyn y cafodd y newid ei bostio ar y wefan. Dylech wirio'r wefan o bryd i'w gilydd i adolygu y telerau ac amodau bryd hynny. Caiff eich defnydd parhaol o'r wefan dybio eich derbyniad o'r telerau ac amodau a addaswyd.