Diogelwch

Mae eich gwarchod chi a'ch gwybodaeth yn flaenoriaeth i Gyllid Myfyriwr. Rydym wedi partneri gyda 'Get Safe Online' er mwyn hyrwyddo diogelwch a sicrwydd ar-lein

www.getsafeonline.org gyda gwyboadaeth defnyddiol, a chyngor o gymorth am ddiogelwch ar-lein

Adnabod e-bost gwe-rwydo

Mae rhai pethau penodol y medrwch chwilio amdanynt i'ch helpu chi i adnabod e-bost gwe-rwydo.

1. Beth mae'r e-bost yn gofyn amdano a pha bryd yr anfonwyd ef

Ni fyddwn:

Mae twyll gwe-rwydo yn fwy cyffredin ym mis Medi, Ionawr ac Ebrill - y 3 prif mis ar gyfer rhan-ddaliadau

2. Sut caiff yr e-bost ei ysgrifennu

E-byst gwe-rwydo

3. Y math o wefan mae'r ddolen e-bost yn cysylltu ag ef

Gwnewch yn sicr eich bod yn defnyddio gwefan diogel pan rydych yn cyflwyno cerdyn credyd neu wybodaeth sensitif arall. Gwiriwch bod y URL yn cynnwys 'https://' neu'r eicon clo fel a ddengys.

Eich cyfeiriad e-bost

Peidiwch â rhoi eich cyferiaid e-bost ar unrhyw dudalennau rhwydweithio cymdeithasol sydd gennych - cuddiwch ef ble'n bosibl.

Dywedwch wrthym os yr ydych yn meddwl eich bod wedi derbyn e-bost gwe-rwydo

Os yr ydych yn meddwl eich bod wedi derbyn cyfathrebiad sy'n amheus neu mae gennych bryder am ddiogelwch eich cyfrif, anfonwch e-bost atom ni yn cfs@slc.co.uk

Os yr ydych wedi ymateb i e-bost gwe -rwydo, ewch ati i newid eich cyfrinair a gyrrwch yr e-bost at ein tim diogewlch yn phishing@slc.co.uk

Nodwch, ni fedrwn ymateb i'r holl e-byst a anfonwyd

Bydd Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn:

Cyfrineiriau ac Atebion Cudd

Pan fyddwch yn cofrestru gyda Chyllid Myfyriwr, rydym yn eich darparu gyda Rhif Cyfeirnod Cwsmer (CRN). Mae hyn yn unigryw i chi, a dylid ddyfynnu hyn os oes angen i chi gysylltu gyda ni.

Os yr ydych yn cofrestru gyda Chyllid Myfyriwr ar-lein, byddwch yn dewis cyfrinair ac ateb cudd eich hun pan fyddwch yn creu eich cyfrif. Medrwch ddefnyddio'r rhain, gyda'ch cyfeiriad e-bost neu CRN i fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein.

Os na wnaethoch gofrestru ar-lein, ond wnaethoch anfon ffurflen gais ar bapur, byddwn yn creu cyfrif ar eich cyfer ac yn eich darparu gyda chyfrinair ac ateb cudd dros dro. Pan fyddwch yn mewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein am y tro cyntaf, byddwn yn gofyn i chi newid y cyfrinair a'r ateb cudd i rai o'ch dewis.

Medrwch ail-osod eich cyfrinair ac ateb cudd ar unrhyw adeg drwy ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein. Dewiswch gyfrinair ac ateb cudd y byddwch yn eu cofio, ond na fyddant yn hawdd i'w dyfalu gan rywun arall.

Myned ein gwasanaeth yn ddiogel

Caiff ein gwefan ei gynllunio i sicrhau pan rydych yn myned eich cyfrif neu'n anfon gwybodaeth atom, ei bod yn ddiogel

Pan fyddwch yn mewngofnodi ac yn myned eich cyfrif ar-lein, cewch eich gwarchod gan sesiwn amgryptio diogel. Byddwch yn gweld cyfeiriad y we yn dechrau 'https' yn hytrach nag ond 'http' ac eicon clo bach yn y bar statws ar waelod y ffenest porwr.

Rhaid i chi allgofnodi o'n safle pan fyddwch wedi gorffen ag ef, a chau'r ffenest porwr. Mae hyn yn sicrhau bod eich sesiwn defnyddiwr wedi ei chau'n gywir.

Pan rydych yn ymweld â'n safle rydym yn argymell eich bod yn teipio cyfeiriad https://www.gov.uk/student-finance mewn i'ch porwr. Mae hyn yn sicrhau eichbod yn mynd i'r safle cywir ac nid i ffug safle neu un twyllodrus.

Diogelu eich Cyfrifiadur

Diweddaru eich system Gweithredol

Gwiriwch bod system weithredu eich cyfrifiadur a'r meddalwedd sy'n rhedeg arno wedi eu diweddaru.

Mae gan y mwyafrif o systemau gweithredu gyfleuster diweddaru a fydd yn diweddaru meddalwedd ar eu cyfirifiadur yn awtomatig.

Am becynnau meddalwedd arall neu raglenni a ddefnyddiwch, ymwelwch â gwefan y gwneuthurwr a, ddiweddariadau sydd ar gael.

Gosod Sganiwr Wrth-Fiirws

Bydd sganiwr wrth- firws da yn gwirio e-byst sydd ar ddod a ffeiliau rydych chi'n eu hagor.

Caiff firysau newydd eu darganfod yn ddyddiol gan wneuthurwyr wrth-firysau felly mae'n bwysig eich bod yn diweddaru'r 'ffeiliau diffiniad' (y rhestr o firysau y mae'r sganiwr yn gwybod amdanynt) bob 2 i 3 diwrnod.

Arsefydlu Firewall

Rhwystr hanfodol yw wal dân rhwng eich cyfrifiadur a'r we, yn atal unrhyw sy'n cysylltu â'ch cyfrifiadur heb eich caniatâd.

Mae gan y mwyafrif o systemau gweithredu cyfrifiadur, fel Mac OS X, Windows XP neu Vista, waliau tân wedi eu hadeiladu'n fewnol. Mae cynhyrchion wal tân sy'n gallu eu llwytho i lawr o'r rhyngrwyd. Sicrhewch bod wal tân eich cyfrifiadur yn weithredol.

Byddwch yn wyliadwrus o firysau, maleiswedd neu ysbiwedd

Gall unrhyw gyfrifiadur sydd wedi ei gysylltu â'r we fod yn agored i niwed fel firysau, maleiswedd neu ysbiwedd

Daw firysau ar sawl ffurf; wedi eu hatodi i e-byst, wedi eu cynnwys mewn rhaglenni sy'n edrych yn ddiniwed neu'n cael eu lledaenu gan wefannau heintiedig.

Mae firysau naill ai yn ceisio niweidio eich cyfrifiadur drwy waredu ffeiliau pwysig neu newid data, neu i gasglu gywbodaeth amdanoch ac yn ei anfon at drydydd parti anawdurdodedig. Gall firysau geisio lledaenu eu hun drwy geisio anfon eu hun atoch chi drwy eich cysylltiadau e-bost neu ddefnyddwyr eraill o safleoedd rhannu ffeil.