Mae unrhyw ad-daliad a wnewch yn atodol i'r rhai a gesglir trwy eich cyflog neu Hunanasesiad yn y Deyrnas Unedig neu i fodloni eich amserlen os ydych chi dramor yn ad-daliad gwirfoddol. Ni ellir talu ad-daliad gwirfoddol yn ôl.
Os ydych am ad-dalu gordaliad grant, peidiwch â defnyddio'r gwasanaeth hwn. Mae unrhyw daliad a wneir yma yn mynd yn awtomatig tuag at falans eich benthyciad.
I drefnu ad-daliad grant:
Os talwyd gormod o grant i chi cyn 2017, cysylltwch â ni ar 0300 100 0629
Os talwyd gormod o grant i chi ar ôl 2017, cysylltwch â ni ar 0300 100 0495.
Mae pob llinell ar agor:
Dydd Llun i ddydd Iau, 8am i 7pm
Dydd Gwener, 8am i 5:30pm